Y tim o amgylch y disgybl y rhiant ar ysgol
Y Tîm o Amgylch y Disgybl, y Rhiant a’r Ysgol
Beth yw ‘TAPPAS’?
Mae’r ‘Tîm o amgylch y Disgybl, y Rhiant a’r Lleoliad‘ – TAPPAS, yn grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi ysgolion a theuluoedd o ran llesiant ac anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae’r tîm yn cynnwys seicolegydd addysgol, athro/athrawes arbenigol, therapyddion iaith a lleferydd, therapydd galwedigaethol, gweithwyr nyrsio ac iechyd meddwl sylfaenol a chwnselwyr ysgolion.
Mae’r tîm o weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â chlwstwr o ysgolion yn dîm sy’n cylchdroi o gwmpas yr ysgolion a’r teuluoedd yn rheolaidd gan ddarparu cymorth a chefnogaeth gynnar ymarferol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cyfarfodydd ymgynghori a chynllunio, a gynhelir ym mhob un o ysgolion Sir Benfro yn dymhorol, lle bydd timau arbenigol ac ysgolion yn trafod cymorth ‘cofleidiol’ ac ymyriad sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc unigol. (TAPPAS 1)
- Fforymau clwstwr tymhorol ar gyfer ysgolion, sy’n gyfle i ddatblygu trefniadau cydweithio rhwng ysgolion ac asiantaethau er mwyn cynyddu capasiti a datblygu dulliau gweithredu rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar atebion ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. (TAPPAS 2)
- Fforymau tymhorol ar gyfer teuluoedd sy’n rhoi cyfle i deuluoedd rwydweithio a chwrdd ag arbenigwyr er mwyn cael cyngor a chymorth. (TAPPAS 3)
Prof Egwyddorion TAPPAS:
- Cefnogi ysgolion a theuluoedd i adnabod disgyblion sydd ag ADY yn gynnar, gweithredu ymyriadau a thracio disgyblion;
- Gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a theuluoedd i adnabod anghenion datblygiad proffesiynol staff a rhoi cymorth i glystyrau o ysgolion i weithredu rhaglen sydd wedi’i theilwra’n briodol;
- Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gefnogi anghenion eu plentyn yn y cartref
Ymgynghori a Chynllunio
Mae’r cyfarfodydd ymgynghori a chynllunio (TAPPAS 1) yn allweddol ar gyfer codi dyheadau a chyflawniad addysgol pob disgybl, gan gynnwys disgyblion sydd ag ADY. Mae cyfarfodydd tymhorol TAPPAS ysgolion yn gyfle i adnabod y meysydd lle mae’r ysgol yn cael trafferthion ac angen cymorth ychwanegol er mwyn sicrhau bod anghenion y plant a’r bobl ifanc yn cael eu diwallu.
Cynhelir cyfarfod blynyddol gyda phenaethiaid y clwstwr a thîm uwch-reoli’r gwasanaeth cynhwysiant i drafod themâu cyffredin sy’n dod i’r amlwg ac i adolygu’r tîm TAPPAS er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben ac, os oes angen hynny, i’w aildrefnu er mwyn diwallu anghenion cyfnewidiol ADY o fewn y clwstwr o ysgolion.
Fforymau Clwstwr
Dyma restr o rai o’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy’r fforymau clwstwr (TAPPAS 2):
- Datblygu rhwydwaith ar gyfer staff cymorth a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n darparu datblygiad proffesiynol a rhannu arfer da.
- Hwyluso cymorthfeydd galw-mewn ac ymgynghoriadau ar gyfer gwahanol asiantaethau.
- Cynllunio ar gyfer pontio disgyblion Blwyddyn 6 sydd ar gam Gweithredu Gan yr Ysgol a Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy.
- Datblygu dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a thrafod camau ar gyfer y dyfodol.
- Ystyried themâu cyffredin sy’n codi gan Ysgolion a theuluoedd a darparu cymorth pwrpasol ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Fforymau Clwstwr ar gyfer Teluoedd
Mae’r Tîm o Amgylch y Disgybl, y Rhiant a’r Lleoliad yn cwrdd yn dymhorol ym mhob clwstwr o ysgolion. Mae’r tîm o weithwyr proffesiynol yn:
- darparu rhwydwaith ar gyfer rhieni, er mwy n hwyluso cefnogaeth ymhlith cymheiriaid.
- hwyluso ymgynghoriadau gan y tîm lleol o Seicolegwyr Addysgol, Therapyddion, Athrawon Ymgynghorol a Swyddogion Cefnogi Rhieni.
- gwella sgiliau rhieni drwy ddarparu cyngor, cymorth a hyfforddiant gan arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol.
- ystyried themâu cyffredin sy’n codi gan ysgolion a theuluoedd er mwyn cefnogi cymorth cynnar parhaus.
Beth yw’r manteision i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol?
'Fel CADY newydd, mae wedi rhoi llawer o hyder i mi'.
'Rwy’n hoffi gweld adnoddau’n cael eu modelu'.
'Mae wedi bod yn dda cael gwybod mwy am waith gwahanol asiantaethau'.
Beth yw’r manteision i deuluoedd?
'Gwasanaeth rhagorol. Roedd hi’n hyfryd cwrdd â phawb. Gwybodaeth ardderchog'.
'Rwy’n teimlo’n fy mod yn cael cefnogaeth ac yn dawelach fy meddwl'.
'Roedd hi’n braf cael cyfle i gwrdd â gwahanol weithwyr proffesiynol mewn un noson. Dylai’r sesiynau hyn gael eu cynnal yn amlach'.
Cynyddu Capasiti
Yn hytrach na gweithio gyda phlant a phobl ifanc unigol bob amser, naill ai wrth asesu neu wrth gyflwyno rhaglenni unigol, mae’r staff hefyd yn helpu ysgolion a theuluoedd i ddatblygu eu sgiliau ac yn eu hannog i ddefnyddio ystod eang o adnoddau defnyddiol. Cydnabyddir y bydd anghenion y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu diwallu yn eu hysgol gymunedol leol, felly mae’n hanfodol bod ysgolion a theuluoedd yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth a’u bod yn gallu darparu’r amgylchedd iawn er mwyn gwneud hyn. Mae’r timau yno hefyd er mwyn adnabod y bobl ifanc mwy cymhleth hynny sydd ag anghenion sydd angen rhaglen fwy dwys o gymorth, a hynny drwy becyn o ddarpariaeth arbenigol.