Archwilio Llongau

Hylendid Bwyd ar Longau Pysgota

Mae'r newidiadau i ddeddfwriaeth hylendid bwyd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2006 yn golygu bod safonau gofynnol o ran gofynion strwythur, hylendid a glanio bellach yn weithredol ar gyfer llongau pysgota.


Strwythur Llong

  • Rhaid i longau gael eu dylunio fel na chaiff cynnyrch ei halogi gan ddŵr gwaelodion llong, carthion, tanwydd nac unrhyw sylwedd annymunol arall.
  • Rhaid i arwynebau y bydd cynnyrch pysgod yn dod i gysylltiad â nhw gael eu gwneud o ddeunydd gwrthgyrydiad sy'n hawdd ei lanhau.
  • Rhaid i offer a ddefnyddir i weithio ar gynnyrch pysgod fod o ddeunydd  gwrthgyrydiad ac yn hawdd eu glanhau.
  • Os defnyddir mewnlif dŵr gyda chynnyrch pysgod rhaid iddo gael ei leoli mewn man lle na chaiff y cyflenwad dŵr ei halogi.


Hylendid

  • Rhaid i'r ardaloedd a ddefnyddir i storio cynnyrch pysgod gael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr da. Rhaid iddynt beidio â chael eu halogi gan ddŵr gwaelodion llong na thanwydd.
  • Rhaid diogelu cynnyrch pysgod rhag halogiad, yr haul a ffynonellau gwres eraill cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod ar fwrdd y llong.
  • Rhaid defnyddio dŵr yfed neu ddŵr môr glân wrth olchi cynnyrch pysgod neu i wneud iâ ar gyfer oeri cynnyrch pysgod.
  • Wrth drin a storio cynnyrch pysgod, rhaid osgoi cleisio.  Ceir defnyddio offeryn sbigog yn unig ar gyfer symud pysgod mawr a allai anafu'r person sy'n trin y cynnyrch, a dim ond os na wneir difrod i'r cnawd.
  • Rhaid oeri cynnyrch pysgod na chaiff ei gadw'n fyw cyn gynted â phosibl.  Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid dod â'r cynnyrch i'r lan cyn gynted â phosibl.
  • Os caiff pennau neu berfedd y pysgod eu gwaredu ar fwrdd y llong, rhaid gwneud hyn yn hylan cyn gynted â phosib gan olchi'r pysgod yn syth wedyn.
  • Gellir cludo pysgod ffres cyfan a physgod ffres wedi'u diberfeddu mewn dŵr môr wedi'i oeri ar fwrdd llong.

 
Wrth Lanio ac Wedi Hynny

  • Rhaid i offer dadlwytho sy'n dod i gysylltiad â chynnyrch pysgod fod wedi'u gwneud o ddeunydd sy'n hawdd ei lanhau ac mewn cyflwr da.
  • Dylid dadlwytho'n gyflym er mwyn caniatáu i'r pysgod gael eu hoeri.
  • Ni ddylai offer nac arferion achosi difrod dianghenraid i rannau bwytadwy'r pysgod.

Llongau Ffatri a Physgota

Mae llongau sy'n rhewi a/neu'n prosesu pysgod arnynt (h.y. llongau rhewgell a ffatri) yn cael eu hystyried yn ‘eiddo cymeradwy' ac yn agored i safon hylendid uwch, sy'n gofyn cymeradwyaeth awdurdod lleol o flaen llaw cyn mynd i'r môr. Byddant yn cael eu harchwilio'n gyfnodol yn unol â'r meini prawf asesu risg Hylendid Bwyd. Mae'r llongau'n cael nod adnabod unigryw sy'n rhaid ei ddangos ar ffurf gymeradwy a'i osod ar holl ddeunydd pacio, gyda'r manylion yn cael eu dal yn ganolog gan y FSA. Mae hwn yn faes gwaith arbenigol sy'n aml yn cynnwys llongau mewn perchenogaeth dramor yn hwylio dan faner Prydain.

ID: 2937, adolygwyd 17/02/2023