Celf a Chrefft
Busnesau Celf a Chrefft Sir Benfro
Mae Sir Benfro wedi bod yn fagned i artistiaid erioed, gyda’i ansawdd unigryw o olau, arfordir ysblennydd a thirwedd anhygoel.
Mae arlunwyr, cerflunwyr, crefftwyr a ffotograffwyr dirifedi wedi’u hysbrydoli gan brydferthwch y sir, a’r bywyd ymlaciol mae’n ei gynnig. Cewch eich sbwylio gyda’r dewis, o ganhwyllau wedi’u gwneud â llaw, gemwaith traddodiadol a modern, llwyau caru wedi’u cerfio â llaw, dillad wedi’u gwau, paentiadau tirwedd anhygoel a cherfluniau o waith llaw. Ewch i weld gof wrth ei waith yn defnyddio technegau poethofanu, a chrëwch eich potiau eich hun ac addurno crochenwaith mewn crochendai a stiwdios seramig.
Gallwch hefyd ymweld â’r unig felin yng Nghymru sy’n arbenigo mewn carpedi, carthennau a llieiniau cul gwëedig fflat, galwch mewn i weld orielau sy’n arddangos lluniau a phaentiadau anhygoel, neu ewch i Lyfrgell Abergwaun i weld y tapestri brodiog 100 troedfedd byd-enwog, sy’n adrodd hanes yrymosodiad olaf erioed ar dir mawr Prydain yn 1797.
Porwch drwy’r orielau, y gweithdai a’r stiwdios - cewch groeso cynnes ble bynnag yr ewch, mae hynny’n sicr.