Cerddwch Sir Benfro
Taith Gerdded Gylchol Cil-maen (Penfro a Doc Penfro)
Mae'n beth da i gerdded, ac felly beth am gamu allan a phrofi rhai o'r teithiau sydd gan eich cymdogaeth i'w cynnig. Mae'r daith bleserus a diddorol hon sy'n dechrau a gorffen y tu allan i eglwys ganoloesol Cil-maen yn un o nifer o deithiau tref a gwlad a grëwyd gan Gyngor Sir Penfro.
Mwynhewch y daith hon sy'n gymysgwch o olygfeydd gwych o ddyfrffordd Aberdaugleddau, coedwigoedd collddail hyfryd a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol, gan gynnwys Eglwys Cil-maen, Castell Penfro a Phwll y Felin, ynghyd â thref Fictoraidd a dociau Doc Penfro gyda'r Barics Amddiffynnol gwych yn taflu golwg drostynt.
Dechreuwch y daith hon yn y maes parcio bychan rhad y tu allan i Eglwys Monkton. Mae'r eglwys a'r Priordy cysylltiol yn dyddio nôl cyn Castell Penfro.
Cerdded: Mae maes Parcio Eglwys Cil-maen yn agos iawn i ganol tref Penfro.
Bws: 356 Cil-maen - Aberdaugleddau (trwy Benfro, Doc Penfro a Neyland) a 357 Cil-maen - Doc Penfro (trwy Benfro). Dod oddi ar y bws wrth Swyddfa Bost Cil-maen. Amserlenni Bysiau
Trên: Mae'r orsaf agosaf ym Mhenfro. Mae Doc Penfro yn agos iawn hefyd. Trenau Arriva Cymru
Map Ffordd: Chwiliwch am ‘Pembroke'
Parcio: Mae yna faes parcio bychan am ddim y tu allan i Eglwys Cil-maen.
Toiledau/Lluniaeth: Mae'r rhain ar gael trwy dref Penfro, sydd ond rhyw gan gilometr o Gil-maen. Maen nhw ar gael hefyd yn nhref Doc Penfro sydd ond rhyw gan metr o fan canol y daith ym Mhennar.
Dechrau/Gorffen: Maes parcio Eglwys Cil-maen, Penfro
Pellter: 5.1 milltir, 2 ½ i 3 awr
Tirwedd: Cymysgwch eang o gerdded ar isffordd tarmac a llwybrau glaswelltog, caregog a mwdlyd. Gall rhai mannau fod yn anodd yn dilyn tywydd gwael. Mae mannau eraill yn serth ac yn gallu bod yn ymdrechgar. Dim ond y daith o gwmpas Castell Penfro a Phwll y Felin sydd ar darmac ac felly'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a beiciau.
Sticil: 7
Giatiau: 3
Grisiau: 5
Pontydd: 3
Golygfeydd: 5
Maes Parcio: 1
- Mae'n werth ymweld â'r eglwys, yn enwedig i weld ei bwa Romanésg a'r olygfa anghyffredin o'r castell sydd i'w gweld o'r fynwent.
- Ar ôl mwynhau eich ymweliad â'r eglwys, cerddwch i lawr lôn gul ganoloesol tuag at Bridgend Terrace ac yno trowch i'r chwith a mynd i gyfeiriad Pont Cil-maen.
- Trowch i'r chwith pan ddewch at y bônt ar hyd llwybr o gwmpas pwll y castell.
- Pan gyrhaeddwch chi'r llifddorau fe gewch chi olygfeydd anhygoel nid yn unig o'r castell ei hun (4) ond i lawr ar hyd yr afon i gyfeiriad Pennar Gut ac i fyny'r afon i gyfeiriad Pwll y Felin a hen gei Penfro
- Yn fuan wedi'r gatiau, trowch i'r chwith wrth y bwlch sy rhwng y tai newydd ar lan yr afon ac i'r chwith eto wrth nodwr llwybr yn Rocky Park sy'n mynd â chi ar draws cae bychan, trwy giât ar hyd llwybr ymdonnog hyfryd sy'n croesi sawl ffrwd ac sy'n rhedeg trwy goedwig gollddail
- Ar y chwith i chi ar hyd y darn hwn ceir golygfeydd gwych o Afon Penfro, cangen o ddyfrffordd Aberdaugleddau, lle bu unwaith longau yn hwylio ar hyd-ddi i fyny at borthladd Penfro
- Ar ôl croesi'r ffrwd olaf cerddwch i fyny'r bryn ac ar draws sawl cae
- Mae'r llwybr yn croesi lôn fechan ac wedi'i nodi'n glir bob cam (10); mae'r darn hwn yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cyn i chi gyrraedd llwybr arall sy'n mynd i'r dde ac yn disgyn yn serth ar hyd Coedwig Sycamorwydden (11).
- Edrychwch i'r chwith i gyfeiriad yr afon ac fe welwch chi leoliad yr iard longau gyntaf i'w hadeiladu yn nhref newydd Fictoraidd Doc Penfro
- Dilynwch y llwybr hwn i lawr y rhiw ac ar hyd trac sy'n arwain at un o faestrefi Doc Penfro, sef Bufferland. Ar ben Sycamore Street mae llwybr cul yn eich arwain i Treowen Roed.
- Trowch i'r dde yn y fan hon ac yna cymryd y tro cyntaf ar y chwith i Cross Park. Ar ddiwedd Cross Park, trowch i'r dde ar hyd llwybr sy'n cylchynu Cwrs Golff Pennar
- Wrth i chi gyrraedd copa'r llwybr hwn ar Barrack Hill fe gewch chi olygfeydd godidog nid yn unig o ddyfrffordd Aberdaugleddau ond hefyd o gynllun grid haearn Fictoraidd Doc Penfro a chyn Iard Longau Frenhinol gysylltiol, sydd bellach yn derfynfa i'r Fferi i Iwerddon
- Ar y dde i chi mae adeilad mawreddog y Barics Amddiffynnol, hwyrach mai dyma'r gorau o'r nifer o amddiffynfeydd a godwyd ar hyd y Cleddau yn ystod Oes Napolean pan roedd pryder y byddai'r Ffrancwyr yn ymosod. (gellir gweld caer debyg ar hyd Taith Gerdded Gylchol Hubberston).
- Cerddwch heibio'r gaer a thrwy ystâd o dai modern hyd nes y dewch chi i Treowen Road unwaith eto. Trowch i'r chwith ac yna i'r dde yn syth ar hyd ochr capel i'r Stryd Fawr. Dilynwch y ffordd hon wrth iddi adael Doc Penfro ar hyd cribyn. Cyrhaeddir tir agored yn fuan ac oddi yno mae golygfeydd i'r gogledd i gyfeiriad Bryniau'r Preseli.
- Croeswch y ffordd wrth y groesfan dan reolaeth a chymrwch yr ail dro ar y dde i mewn i'r hyn sydd bellach yn Ysgol Gyfun Penfro, gan fynd i'r chwith ar waelod y rhiw a mynd heibio i'r mawreddog Bush House ar y chwith i chi.
- Roedd hwn yn arfer perthyn i deulu Meyrick oedd yn berchen ar lawer o diroedd yn lleol ond erbyn hyn cartref nyrsio ydyw ond mae'n cadw'i ffasâd mawreddog o hyd ynghyd â'r olygfa i gyfeiriad Castell Penfro.
- Wedi cyrraedd Bush Hill, y brif ffordd rhwng Doc Penfro a Phenfro, trowch i'r dde a cherdded i lawr y rhiw.
- Ar ôl i chi gyrraedd Penfro croeswch Bont y Felin, trowch i'r dde i faes parcio'r Cei a dilyn y llwybr o gwmpas y castell gan sylwi ar y Ceudwll Wogan hynod ym muriau'r castell .
- Mae mynediad i'r ceudwll ar gael o'r castell ei hun. Wrth y brif ffordd trowch i'r dde dros Bont Cil-maen, i fyny Bridgend Terrace ac i'r dde ar hyd lôn ganoloesol sy'n dod a chi yn ôl i ddechrau'r daith wrth Eglwys Cil-maen.