Gwastraff Masnachol
Cwestiynau Cyffredin
Sut byddaf i'n gwybod beth sydd arnaf ei angen ar gyfer fy musnes?
Cysylltwch â'r adran gwastraff masnachol ar tradewaste@pembrokeshire.gov.uk a byddwn yn hapus i drafod eich gofynion gyda chi.
Pa wastraff ydw i’n gyfrifol amdano fel perchennog busnes?
Chi sy’n gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle rydych yn ei feddiannu. Mae hyn yn cynnwys y gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, eich ymwelwyr a/neu unrhyw un arall ar y safle. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr holl ailgylchu yn cael ei wahanu’n gywir ac nad yw’n cael ei waredu fel gwastraff cyffredinol.
Beth yw’r gofynion gwahanu?
Mae’n orfodol i bob busnes yng Nghymru wahanu eu gwastraff at ddibenion ailgylchu. Mae hyn yn golygu na ellir casglu deunydd ailgylchu yn gymysg â gwastraff cyffredinol mwyach.
Ydw i’n cael rhoi fy ailgylchu yn fy ngwastraff cyffredinol i’w waredu?
Ni allwch gael gwared ar unrhyw ddeunyddiau ailgylchu o fewn eich gwastraff cyffredinol; rhaid ailgylchu pob eitem o’r deunyddiau ailgylchu penodedig ar wahân.
Beth yw’r deunyddiau ailgylchu penodedig?
- Gwastraff Bwyd > 5kg yr wythnos
- Papur a cherdyn
- Carton (Bwyd a Diod) Gwydr
- Metel (tun a chaniau)
- Plastig (poteli a chynwysyddion plastig) Tecstilau heb eu gwerthu
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff heb eu gwerthu
- Cynnyrch Hylendid Amsugnol
- Gwastraff Gerddi
Lle gallaf gael cyngor ac arweiniad ar newid cyn casgliadau?
Mae ein tîm gwastraff masnach wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar wahanu gwastraff ac argymhellion ar yr opsiynau mwyaf cost-effeithiol a’r atebion ailgylchu ar gyfer anghenion eich busnes.
A allaf adolygu fy nghytundeb ar unrhyw adeg?
Gallwch. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn iawn i chi a’ch
anghenion busnes.
A allaf siarad â rhywun yn bersonol i drafod fy anghenion?
Os hoffech drafod eich gofynion wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau yn Nepo Thornton trwy e-bostio
tradewaste@pembrokeshire.gov.uk. Gellir trefnu apwyntiadau rhwng
10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gen i labeli gwastraff cyffredinol rhagdaledig na allaf eu defnyddio mwyach, oherwydd nad oes label gennyf yn nodi bin gwag?
Os ydych yn talu am wasanaeth llogi a chasglu blynyddol ac nad oes angen labeli gwastraff cyffredinol arnoch mwyach, byddwn yn hapus i’ch ad-dalu yn seiliedig ar y pris yr ydych wedi’i dalu amdanynt.
Sut ydw i’n adrodd problem gyda fy nghasgliadau?
E-bostiwch ein hadran gwastraff masnach yn
tradewaste@pembrokeshire.gov.uk neu fel arall, ffoniwch 01437 775900.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n anghofio rhoi labeli ar fy miniau?
Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes angen casgliad ychwanegol arnoch. Bydd ymweliadau ychwanegol yn ôl disgresiwn y rheolwyr a byddant yn costio £32.00 fesul lori a/neu bob ymweliad. (yn daladwy ymlaen llaw).
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn rhoi y biniau allan mewn pryd?
Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes angen casgliad ychwanegol arnoch. Bydd ymweliadau ychwanegol yn ôl disgresiwn y rheolwyr a byddant yn costio £32.00 fesul lori a/neu bob ymweliad. (yn daladwy ymlaen llaw).
Nid yw fy min ailgylchu wedi cael ei wagio?
Os oes label halogi gwyrdd ar eich bin, mae’n golygu bod problem gyda
chynnwys y bin. Bydd y label yn dweud wrthych beth yw’r broblem.
Beth sy’n digwydd os oes gan fy min label halogi gwyrdd ynghlwm?
Ni fyddwn yn gallu casglu eich biniau os yw eich bin gwastraff cyffredinol yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu neu os yw eich biniau ailgylchu wedi’u halogi â’r deunyddiau anghywir. Rhaid tynnu’r holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu allan a’u rhoi yn y cynwysyddion cywir i’w hailgylchu.
Ni chafodd fy min ei wagio heddiw ac roedd label 'methu gwagio' ynghlwm wrtho.
Os nad ydym wedi gallu cael mynediad, bydd label 'methu gwagio' ynghlwm wrth eich bin(iau) fel eich bod yn ymwybodol ein bod wedi ceisio gwagio’ch bin(iau).
O ble alla i brynu labeli gwagio biniau gwastraff cyffredinol ychwanegol?
Dim ond yn uniongyrchol o’r Adran Gwastraff Masnach y gellir prynu labeli gwagio biniau. I brynu labeli ychwanegol e-bostiwch tradewaste@pembrokeshire.gov.uk