Swyddi a Gyrfaoedd yn y Cyngor

Cefnogaeth y Lluoedd Arfog - Deiliad Gwobr Arian

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod y dylai'r rheiny sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sydd wedi gwneud hynny, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.

Er mwyn arddangos yr ymrwymiad hwn, mae Cyngor Sir Penfro am wneud addewid  ffurfiol i gefnogi'r lluoedd arfog, gan gynnwys cyflogeion presennol neu yn y dyfodol sy'n aelodau o'r gymuned.

Rydym yn ddeiliaid Gwobr Arian ar gyfer y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn ac rydym yn croesawu pob cais recriwtio gan y rhai sy’n filwr wrth gefn, cyn-filwyr y lluoedd arfog, hyfforddwyr cadetiaid a chymar/partneriaid milwrol.

ID: 5912, adolygwyd 05/01/2023

Pensiwn a Buddion eraill

Mae ein gweithwyr yn elwa o raglen sefydlu gynhwysfawr, yn ogystal â system cymorth gwerthuso er mwyn adnabod a chyrraedd eu hanghenion hyfforddiant a datblygu esblygol. Mae gennym dîm mewnol ymroddgar sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu, wedi eu teilwra ar gyfer anghenion busnes.

Mae buddion eraill yn cynnwys:-

  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cynllun pensiwn cyfrannol â buddion wedi'u diffinio)
  • 26 diwrnod o wyliau â thâl bob blwyddyn - gan godi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser)
  • Gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol a rhaglen cymorth i weithwyr (gwasanaeth cynghori cyfrinachol)
  • Oriau gwaith hyblyg, pan fo hynny'n briodol
  • Gweithio o adref (mewn rhai gwasanaethau)
  • Gostyngiad ar aelodaeth o ganolfannau hamdden CSP
  • Cynllun Seiclo i'r Gwaith (beiciau di-dreth ar gyfer gwaith)
  • Gostyngiadau a hyrwyddiadau gan amrywiaeth o fân-werthwyr a darparwyr gwasanaethau.
ID: 1917, adolygwyd 11/06/2024

Gweithio i'r Cyngor

Mae gan Cyngor Sir Penfro ymdeimlad clir o bwrpas, a amlygir yn ein gweledigaeth -

'Gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau yn Sir Benfro'

Yn gysylltiedig ag amcanion lles lleol a Chymru gyfan, mae'r weledigaeth hefyd yn cael ei thanategu gan dair egwyddor arweiniol:

  • Ymdeimlad o Bwrpas - Ein pwrpas yw ysbrydoli a chynorthwyo unigolion, cymunedau a sefydliadau er mwyn sicrhau gwelliannau i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

  • Gwelliant - Ein nod fydd trawsnewid y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio, gan arloesi a chwilio am yr arferion gorau i’n helpu ni i gyflawni mewn ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon. Ein nod fydd parhau i wneud dewisiadau doeth, trwy dorri’r gôt yn ôl y brethyn ac osgoi prosesau diangen a gwastraff.

  • Cydweithio - Byddwn yn cydweithio i helpu darparu cymorth a gwasanaethau cysylltiedig i drigolion, cymunedau a sefydliadau Sir Benfro, ac ymwelwyr â’r sir. Rydym yn ymroi i ddatblygu partneriaethau effeithiol gyda chyrff sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o fewn y sir, a’r tu allan i’r sir, yn barhaus.

Mae'r egwyddorion hyn yn uniongyrchol berthnasol i waith ein pobl trwy gydol y gyfundrefn.

ID: 1879, adolygwyd 17/03/2023

Gwneud Cais am Swydd Wag

I ymgeisio am swydd gyda Chyngor Sir Penfro, bydd angen i chi ddefnyddio eich ffurflen gais ar-lein.

Mae'n system hawdd i'w ddefnyddio, a fydd yn eich arwain trwy'r broses ymgeisio gam wrth gam. Os ydych yn profi unrhyw anhawster, mae cymorth wrth law. Ffoniwch 01437 776358 a gofynnwch am y tîm recriwtio, neu fel arall, gallwch ein e-bostio ar recriwtio@sir-benfro.gov.uk 

Unwaith rydych wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn e-bost yn awtomatig i gadarnhau ein bod wedi ei dderbyn. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i'ch hysbysu o ddatblygiad eich cais. Os gwahoddir chi am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost i gadarnhau'r trefniadau, a byddwn yn anelu at roi o leiaf 3 diwrnod o rybudd.

Noder nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs.

 

 

ID: 1878, adolygwyd 08/01/2025

Polisi Recriwtio a Dethol

Fel cyflogwr mawr yn y sector cyhoeddus, mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod pwysigrwydd cael trefniadau agored, teg a moesegol mewn grym ar gyfer penodi ei weithwyr. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu fframwaith polisi corfforaethol y Cyngor ar gyfer gweithgareddau recriwtio a dethol.

  1. Bydd pob penodiad lle telir cyflog gan Gyngor Sir Penfro yn cael ei wneud yn ôl teilyngdod, h.y. bydd y meini prawf ar gyfer dethol unigolion i’w cyflogi yn dibynnu ar eu gallu i gyflawni gofynion swyddi gwag penodol fel y diffinnir gan y disgrifiadau swydd a’r manylebau personol.
  2. Bydd yr holl benodiadau’n gyson â rhwymedigaethau’r Cyngor fel cyflogwr o dan y ddeddfwriaeth gyfredol ac yn arbennig Y Deddf Cydraddoldeb.
  3. Bydd yr holl benodiadau’n gyson ag egwyddorion ac amcanion Datganiad Cyfle Cyfartal y Cyngor.
  4. Bydd yr holl ymarferion recriwtio yn cael eu cynnal yn unol â darpariaethau a safonau Cod Ymarfer Recriwtio a Dethol y Cyngor, a’r cyngor a roddir i reolwyr llinell.
  5. Bydd y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau bod yr holl unigolion awdurdodedig sy’n cymryd rhan mewn recriwtio a dethol pobl i weithio i’r Awdurdod yn cael eu hyfforddi’n ddigonol ac yn briodol er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau.
  6. Bydd y polisi hwn, y Cod Ymarfer a’r cyngor sy’n ei gefnogi, yn cael eu hadolygu’n rheolaidd neu eu diwygio i ystyried newidiadau mewn arfer recriwtio, deddfwriaeth gyflogi, y farchnad lafur a phatrymau gweithio.
ID: 1880, adolygwyd 29/09/2022

Datganiad Cyfle Cyfartal

Nod y datganiad hwn yw sicrhau triniaeth a chyfle teg a chyfartal i holl ddefnyddwyr gwasanaethau'r Cyngor a chyflogeion y Cyngor.  Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Sir Benfro.

Dyletswyddau'r Cyngor

1. Bydd Cyngor Sir Penfro yn gweithio tuag at gyfle cyfartal i bawb ac yn defnyddio'i egni a'i adnoddau i gyflawni'r nod hwn.

2. Ni fydd y Cyngor Sir yn gwahaniaethu ar sail oed, lliw, anabledd, tarddiad ethnig, rhyw, statws HIV, statws mewnfudiad, statws priodasol, statws cymdeithasol neu economaidd, cenedlaetholdeb neu darddiad cenedlaethol, hil, credoau crefyddol, cyfrifoldeb am ddibynyddion, rhywioldeb, aelodaeth o undeb llafur neu gollfarn droseddol amherthnasol. Bydd y Cyngor yn hybu mynediad a chyfle cyfartal i ddinasyddion sy'n wynebu triniaeth annheg ar unrhyw un o'r seiliau hyn gan gynnwys y rhai sydd dan anfantais oherwydd ffurfiau lluosog o wahaniaethu.

3. Bydd y Cyngor Sir yn ymdrechu i ddileu hiliaeth, rhywiaeth a phob math o wahaniaethu. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn am ymroddiad i gael gwared ar wahaniaethu a hefyd camau gweithredu trwy bolisïau i wneud iawn am yr anghydraddoldebau yn sgil gwahaniaethu yn y gorffennol

4. Rydym yn ymroddedig i hybu mynediad cyfartal i'r holl wasanaethau a ddarperir gennym. Dylai gwasanaethau (a gwybodaeth am wasanaethau) gael eu llunio i fod yn briodol i anghenion pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Sir Benfro.

5. Bydd y Cyngor yn gweithredu i sicrhau mynediad cyfartal i'n swyddi ar bob lefel ac i ddatblygu ein holl gyflogeion i lefel sy'n gymesur â'u cyfrifoldebau.

6. Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi amrywiaeth pawb sy'n byw, yn gweithio ac sy'n ymweld â Sir Benfro ac yn ystyried bod hyn yn rym cadarnhaol i ddatblygu cydlyniad cymunedol trwy ei ymroddiad tuag at gyfle cyfartal.

7. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i wrthwynebu aflonyddu ac erledigaeth preswylwyr, defnyddwyr gwasanaethau a chyflogeion ar y seiliau a nodwyd uchod a bydd yn gweithredu i wrthweithio yn erbyn aflonyddu yn y gymuned, wrth ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ac yn y gweithle.

Pam Cael Datganiad?

1. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu'r holl wasanaethau a'r cyfleoedd cyflogaeth yn deg a heb wahaniaethu.  Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau penodol y Cyngor ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol.


2. Mae'r ddyletswydd hon yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gwahaniaethau yn digwydd amlaf yn benodol ar sail oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol yn ogystal â deddfwriaeth ynglŷn â hawliau dynol, adsefydlu troseddwyr a chyflog cyfartal.

3. Gall effeithiau andwyol yn sgil cael eich eithrio rhag cyfleoedd oherwydd gwahaniaethu ac aflonyddu fod yn ddifrifol.  Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod eithrio pobl rhag cael cyfle yn creu anfantais i'r rhai sy'n wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu ond hefyd yn amddifadu ein cymunedau o gyfraniad llawn eu doniau a'u hegni.
Mae grymuso pobl i gyfrannu'n llawnach yn cyfoethogi ein bywyd cymunedol ac yn cyfrannu tuag at gydlyniad cymunedol.

Y Datganiad Yn Fanylach

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gwahanol ffurf i'r gwahaniaethu sy'n effeithio ar wahanol grwpiau yn ein cymuned a'i fod yn cael effeithiau penodol. Rydym yn ymroddedig i gymryd camau i frwydro yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol, anuniongyrchol a sefydliadol ac i sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael cyfle cyfartal.

1. Oed

Mae gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu bod yn "hen" neu'n "ifanc yn endemig yn ein cymdeithas. Yn aml, gwneir rhagdybiaethau gwallus ar sail rhagfarn a stereoteipiau ynglŷn â galluoedd a nodweddion pobl iau a hŷn sy'n cael effaith niweidiol arnyn nhw. Yn rhy aml mae pobl iau a hŷn yn cael gwrthod y cyfle i gymryd rhan yn llawn mewn penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau ac yn cael gwrthod yr hawl i gael yr annibyniaeth a'r cyfrifoldeb y mae hawl ganddyn nhw eu cael.

Mae llawer yn wynebu cael eu heithrio rhag cyflogaeth ac ynghyd â ffactorau eraill mae'n arwain yn anghyfartal at dlodi, incwm isel a'r anallu i fwynhau pethau da bywyd. Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu'r math hwn o wahaniaethu ac o'r farn y dylai pob dinesydd, waeth beth yw ei oed, gael cyfle cyfartal.

2. Anabledd

Fel gyda Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (DGSA), er mwyn cael ei amddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid bod gan unigolyn nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu neu ei gallu i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd.

Mae gan lawer o bobl yn ein cymuned anabledd ac mae anghenion a gofynion y rhai sydd â gwahanol anableddau yn amrywio'n helaeth.

Mae'r Cyngor yn ymroddedig i weithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

3. Ailbennu Rhywedd

Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn cyflogeion sy'n bwriadu dilyn proses, neu sy'n mynd trwy broses neu sydd wedi mynd trwy broses ailbennu rhywedd.  Yn yr un modd mae'n gwrthwynebu i'r un graddau i driniaeth annheg o aelodau trawsrywiol yn ein cymunedau.

4. Priodas a Phartneriaeth Sifil

Bydd y Cyngor yn amddiffyn cyflogeion sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil yn erbyn gwahaniaeth yn unol â'r ddeddfwriaeth.

5. Beichiogrwydd a Mamolaeth

Mae'r Cyngor yn amddiffyn cyflogeion rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod cyfnod eu habsenoldeb beichiogrwydd a mamolaeth.  Mae'n cynnal polisïau i gefnogi menywod sy'n dychwelyd i weithio.

6. Hil

Mae hiliaeth yn rym pwerus a distrywiol yn ein cymdeithas. Mae rhagfarn a stereoteipiau ynglŷn â phobl ddu a phobl o nifer o gymunedau lleiafrifol ethnig gwahanol yn arwain at wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.  Mae'r gwahaniaethu hwn yn rhan o brofiad bywyd bob dydd.

Mae'r Cyngor yn croesawu'r cymunedau a'r diwylliannau amrywiol yn y sir a'r ardal gyfagos ac yn eu gweld fel grym cadarnhaol er lles pawb. Rydym yn ymroddedig i hybu dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng ein gwahanol gymunedau ac i frwydro yn erbyn gwahaniaethau ar sail hil ar bob ffurf. Mae'r Cyngor yn gwrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn pob cymuned leiafrifol ethnig

7. Crefydd neu Gredo

Gall pobl wynebu gwahaniaethu oherwydd eu credoau crefyddol, bod yn aelodau o grwpiau ffydd neu am eu bod wedi dewis peidio â glynu at gredo neu grŵp crefyddol. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu ac eithrio ar sail crefydd neu gredo.

8. Rhyw

Gall dynion a menywod yn ein cymunedau wynebu anfantais mewn sawl ffordd.  Gallan nhw wynebu anfantais oherwydd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol a all eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.

Efallai y bydd ein staff dan anfantais weithiau oherwydd eu cyfrifoldeb gofal a all eu hatal rhag cyrraedd eu potensial llawn yn y gweithlu.

Mae'r Cyngor yn ymroddedig i hybu cyfle cyfartal i ddynion a menywod a bydd yn cymryd camau i gael gwared ar wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gwasanaethau a ddarperir gennym, yn ein polisïau ac arferion cyflogaeth ac o ran mynediad i brosesau democrataidd lleol.  Mae'r Cyngor yn ymroddedig i sicrhau bod ganddo bolisïau a gweithdrefnau cyflogaeth a fydd yn amddiffyn egwyddor triniaeth deg a chyfartal i'r holl gyflogeion yn y gweithle.

9. Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae'r Cyngor yn ymroddedig i greu amgylchedd gweithio cadarnhaol lle mae cyflogeion lesbiaid, hoyw a deurywiol yn cael eu trin yn deg.

Mae hefyd yn ymroddedig i ddileu gelyniaeth ac ofn tuag at y grwpiau hyn os ydyn nhw'n ddefnyddwyr gwasanaethau'r Awdurdod gan geisio cyrraedd sefyllfa lle mae lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol yn cael eu derbyn fel dinasyddion cyfartal a gwerthfawr.

10. Aelodaeth a Gweithgareddau Undeb Llafur

Mae'r Cyngor yn parchu hawl ei holl gyflogeion i fod yn aelodau o undeb llafur. Fel cyflogwr, mae'r Cyngor yn cydnabod nifer o undebau llafur ac yn ymroddedig i  berthynas agored ac adeiladol gyda nhw. Hefyd, mae'r Cyngor yn ymroddedig i gymryd camau gweithredu sy'n cynorthwyo i sicrhau bod pawb sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned yn gallu elwa ar fod yn aelod o undeb llafur.

11. Addysg

Mae gan ysgolion oblygiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran staff, fel cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ac fel darparwyr gwasanaethau.

Cyngor Sir Penfro yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion Cymunedol ac ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Benfro.  Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Derbyn weithredu mewn unrhyw ffordd sy'n anghyson â goblygiadau cyfreithiol eraill sy'n ymwneud â derbyn i ysgolion.  Mae'r Cyngor Sir yn cydymffurfio â'r canllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Statudol Derbyn i Ysgolion.

12. Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae'r Cyngor yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010

 

ID: 1881, adolygwyd 29/09/2022

Diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed, y mae e'n gofalu amdanynt.  Mae gydag e feddylfryd sy'n rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu pobl.  Mae'n rhaid i'n gweithwyr ymrwymo i wneud hyn hefyd.

I'r perwyl hwn, bydd gweithwyr sy'n gweithio â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu cyflogi yn unol â chod Ymarfer y Cyngor Sir, ac yn cael eu harchwilio yn ôl safonau pendant.  Mae hyn yn golygu cael gwiriadau cefndir priodol trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac mae'n rhaid cael geirda/tystlythyrau boddhaol.  Bydd pa mor addas yw'r ymgeiswyr i weithio â phlant yn cael ei archwilio i'r eithaf trwy gynnal archwiliadau gyda'r cyflogwyr presennol a blaenorol, fel rhan o'r broses archwilio ac yn y cyfweliad hefyd.  Ni fydd y Cyngor yn cyflogi neb i weithio â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, os bydd unrhyw amheuaeth resymol ynghylch eu haddasrwydd i wneud hynny.

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod proses hyfforddiant ymsefydlu gweithwyr yn cynnwys rhoi cyfarwyddyd ynghylch arfer gorau ym maes diogelu ac amddiffyn.  Bydd hefyd yn sicrhau bod y gweithwyr yn cael eu goruchwylio, gan bwyll ac yn rheolaidd, pan maent yn gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.

ID: 1882, adolygwyd 29/09/2022

Datganiad Polisi At Recriwtio Cyn-Drosed

 

  1. Mae Cyngor Sir Penfro yn sefydliad sy'n defnyddio gwasanaeth gwirio y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer swyddi cyfrifol ac, o'r herwydd, mae'n cydymffurfio yn llwyr â Chod Ymarfer ac yn ymrwymo i drin yr holl ymgeiswyr am swyddi yn deg. Mae'n ymrwymo i beidio â gwahaniaethu yn annheg yn erbyn rhywun sy'n destun gwiriad DBS ar sail euogfarn neu unrhyw wybodaeth arall a ddatgelir.
  2. Mae Cyngor Sir Penfro yn ymroddedig i drin yn deg ei staff, ei ddarpar staff neu ddefnyddwyr ei wasanaethau,waeth beth fo'u hil, eu rhyw, eu crefydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu cyfrifoldebau am ddibynyddion, eu hoed, eu hanabledd corfforol/meddyliol neu eu cefndir troseddu.
  3. Rydym wedi ysgrifennu polisi ynghylch recriwtio cyn-droseddwyr, ac mae'r polisi hwn ar gael i bob ymgeisydd DBS pan mae'r broses yn dechrau.
  4. Rydym yn mynd ati i hybu cydraddoldeb cyfle i bawb sydd â'r gymysgedd iawn o ddoniau, sgiliau a photensial, a chroesawn ceisiadau oddi wrth amrywiaeth eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rheiny sydd â hanes o droseddau. Byddwn yn dethol ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a'u profiad.
  5. Byddwn yn gwneud cais am wiriad DBS yn unig ar ôl y bydd asesiad risg trylwyr wedi dangos bod hyn yn gyfatebol ac yn berthnasol i'r swydd dan sylw. Yn achos y swyddi hynny lle bydd galw am wiriad DBS, bydd yr holl ffurflenni cais a chrynodebau recriwtio yn cynnwys datganiad y bydd y Cyngor yn gwneud cais am wiriad DBS pe byddai'r unigolyn yn cael cynnig y swydd.
  6. Pan fydd gwiriad DBS yn rhan o'r broses recriwtio, byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad i ddarparu manylion eu hanes o droseddau yn gynnar yn y broses ymgeisio. Gofynnwn eu bod yn anfon y wybodaeth yma mewn modd cyfrinachol, ar wahân, i rywun y bydd Cyngor Sir Penfro yn eu dynodi, ac rydym yn gwarantu mai'r rheiny y mae angen iddynt weld y wybodaeth, fel rhan o'r broses recriwtio, yn unig fydd yn ei gweld.
  7. Oni bai, oherwydd y math o swydd ydyw, y caniateir i Gyngor Sir Penfro ofyn cwestiynau am eich cofnod troseddol drwyddo draw, byddwn ni ond yn gofyn cwestiynau am gollfarnau ‘heb ddarfod' fel y'u diffinnir gan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.
  8. Rydym yn sicrhau bod pawb yng Nghyngor Sir Penfro sy'n ymwneud â'r broses recriwtio wedi'u hyfforddi'n addas i nodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau. Rydym hefyd yn sicrhau eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a hyfforddiant priodol yn y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyflogi cyn-droseddwyr, e.e. Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, a deddfwriaeth berthnasol arall hefyd fel Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
  9. Mewn cyfweliad, neu mewn trafodaeth ar wahân, fe fyddwn yn sicrhau trafodaeth agored ac ystyriol ynglŷn â throseddau neu fater arall a allai fod yn berthnasol i'r swydd. Pe byddai'r ymgeisydd yn methu â datgelu gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r swydd y mae'n ymgeisio amdani, mae'n bosibl y bydd y cynnig gwaith yn cael ei dynnu'n ôl.
  10. Byddwn yn sicrhau bod pawb fydd yn destun gwiriad DBS yn ymwybodol o fodolaeth Cod Ymarfer, a bydd copi o hwn ar gael ar gais.
  11. Rydym yn ymgymryd i drafod unrhyw fater a ddatgelir mewn gwiriad DBS gyda'r sawl sy'n ymgeisio am y swydd cyn tynnu cynnig gwaith amodol yn ôl.

 

ID: 1883, adolygwyd 29/09/2022

Yr Iaith Gymraeg

Yn unol â Safonau'r Gymraeg, gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi gyda Chyngor Sir Penfro yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae'r angen am sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn amrywio ar draws ein gweithlu, a hynny'n ddibynnol ar y math a lleoliad y swydd. Yn sgil hyn, bydd ein ceisiadau yn nodi'n glir os yw'r Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, angen ei ddysgu gyda phenodiad i'r swydd neu ddim yn angenrheidiol.

Mae gan ymgeiswyr yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad, ac mewn unrhyw ran arall o'r broses asesu a dethol. Bydd yr Awdurdod yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfweliad neu asesiad os oes angen.

 

ID: 1884, adolygwyd 29/09/2022

Datganiad Polisi Cyflog

Datganiad Polisi Tâl 2022 - 2023

ID: 1885, adolygwyd 17/07/2024