Hunanasesiad Blynyddol 2021-22

Casgliadau

Mae'r adran hon dirwyn yr hunanasesiad i ben ac yn dwyn ynghyd gamau gweithredu ar gyfer y sefydliad yn ei gyfanrwydd yn ogystal â chrynodeb ar y cynnydd ar ein hamcanion llesiant

Mae'r rhagolygon ariannol presennol wedi newid llawer ers y flwyddyn 2021-22.  Mae’r pwysau ar wasanaethau a amcangyfrifir ar gyfer chwyddiant cyflogau’r gweithlu a chwyddiant nad yw’n ymwneud â’r gweithlu wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 2022-23 ac mae potensial i'r pwysau ar wasanaethau a amcangyfrifir ar gyfer contractau, galw a demograffeg gynyddu hefyd.  Bydd hyn yn achosi i’r bwlch rhagamcanol o ran cyllid ar gyfer 2023-24 a blynyddoedd yn y dyfodol gynyddu'n sylweddol, gyda'r bwlch rhagamcanol diwygiedig o ran cyllid ar gyfer 2023-24 yn £24.4m (ym mis Medi 2022) yn ôl yr amcangyfrif, gyda'r potensial iddo gynyddu ymhellach.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cytuno bod cyflawni ei Gynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol 2022-24 yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyflawni.  Mae hwn yn rhestru 74 o gamau gweithredu ar draws 7 pennawd sy'n deillio o Egwyddorion Llywodraethu Da CIPFA.  Nid yw'r casgliadau o'r hunan-asesiad hwn yn disodli hyn ac yn hytrach maent yn atgyfnerthu rhai o'r camau a nodwyd eisoes yn y CGLlC (megis Cam Gweithredu D1 i gynhyrchu strategaeth gorfforaethol 5 mlynedd a chynllun corfforaethol tair blynedd, sydd wedi'i osod yng nghyd-destun gweledigaeth ar gyfer y sir).

Un o'r argymhellion a ailadroddwyd yn aml yw'r angen i ddiffinio gweledigaeth sefydliadol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a datblygu strategaeth gorfforaethol 5 mlynedd sy'n integreiddio gweledigaeth wleidyddol gydag ystod o gynlluniau, strategaethau a mentrau tymor canolig eraill.  Mewn rhai achosion (yn enwedig ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Strategol a chynllun y Gweithlu) mae’r drafftiau wedi datblygu'n dda.

  • Cyflwyno trefniadau cynllunio ariannol aml-flwyddyn (3-5 mlynedd) treigl, wedi'u cysoni â'r amserlenni cynllunio corfforaethol.  Er mwyn i hyn fod yn effeithiol, mae angen iddo gysylltu â chynllunio gwasanaethau yn y tymor canolig yn ogystal â'r cynllun ariannol tymor canolig.
  • Cryfhau ffocws tymor canolig cynlluniau aml-flwyddyn ac ailbennu’r cydbwysedd mewn perthynas â phrif ffocws ar flaenoriaethau a heriau uniongyrchol, gan adlewyrchu cylch oes y Rhaglen Weinyddu a'r Strategaeth Gorfforaethol a’r cynllun ariannol Tymor Canolig yn well
  • Cynhyrchu Cynllun Rheoli Asedau Strategol newydd sy'n nodi'n glir o dan ba amgylchiadau yr ydym yn dal asedau eiddo ac yn datblygu ein portffolio eiddo fel ei fod yn cefnogi taith wella ehangach y Cyngor.  Diwygio strwythurau llywodraethu i fonitro'r gwaith o gyflawni'r cynllun hwn.
  • Mae'r sefydliad cyfan yn datblygu cynllun y Gweithlu gan ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio'n benodol ar lwybrau gyrfaol mewn proffesiynau allweddol lle mae gennym faterion recriwtio a chadw a bydd yn ategu cynlluniau’r Gweithlu gan wasanaethau lle mae'r rhain wedi'u datblygu.
  • Datblygu strategaeth gaffael newydd yng nghyd-destun strategaeth fasnachol ehangach sy'n cysylltu â'r CATC, yn mynd i'r afael â gwariant lleol, incwm/masnachu a dyletswyddau posibl o dan y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Canlyniadau'r gwaith hwn fydd integreiddio polisi a chynllunio ariannol yn llawer gwell gyda'r ddwy broses yn cyd-fynd yn glir ag uchelgeisiau gweinyddiaeth y Cyngor. Bydd hefyd yn rhoi golwg holistaidd ar sut y gall holl asedau'r Cyngor, nid arian yn unig ond hefyd ei weithlu, a thir/eiddo gyfrannu at lesiant yn Sir Benfro.  Mae golwg tymor canolig yn cyd-fynd yn well â'r ffyrdd eraill o weithio; mwy o amser ar gyfer cynnwys, ac atal. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n haws gweithio gyda sefydliadau eraill ac i gynlluniau fynd i'r afael ag ystod eang o faterion.

O ystyried effaith yr argyfwng tai presennol ar Sir Benfro, boed hynny'n llesiant teuluoedd unigol, y straen y mae'n ei rhoi ar gymunedau neu ganlyniadau ariannol ymdrin â digartrefedd, mae angen datblygu Strategaeth Tai i Sir Benfro, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â fforddiadwyedd, cynnwys partneriaid allweddol a darparu'r fframwaith ar gyfer targedu'r adnoddau sydd ar gael o bremiwm y dreth gyngor,  symiau gohiriedig, y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, perchentyaeth cost isel / opsiynau rhentu cost isel. Bydd hyn hefyd yn cynnwys Rhaglen Datblygu Tai Cyngor gadarn ac ystyried cynlluniau 'Pecyn Parod' ar gyfer datblygwyr preifat. Mae'r argyfwng digartrefedd mwy uniongyrchol yn awgrymu bod angen Strategaeth Digartrefedd gan ystyried cynllun Prydlesu ar gyfer y Sector Rhentu Preifat a datblygu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai.

Mae recriwtio a chadw staff yn fater cyffredin drwy’r hunanasesiad. I raddau mae hyn yn adlewyrchu materion ar draws yr holl lafurlu ac mae rhai yn faterion sector-benodol gydag anawsterau recriwtio ar draws y sector gofal cymdeithasol cyfan a llawer o broffesiynau fel cynllunwyr a pheirianwyr.  Bydd cynllun y gweithlu’n gosod y cyd-destun, ond mae angen parhau i ehangu'r defnydd o brentisiaethau ar draws y Cyngor a'n trefniadau profedig ar gyfer 'tyfu ein talent ein hunain' o ran gweithwyr cymdeithasol, gyda chyfleoedd yn cael eu rhoi bob blwyddyn i staff mewnol gael mynediad at hyfforddeiaethau i ddatblygu eu gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol.  Er na all y dull hwn fynd i'r afael â'r holl brinder sgiliau y mae'r cyngor yn eu hwynebu (yn enwedig yn y tymor byr), mae'n cynnig manteision eraill fel y potensial i gadw pobl ifanc fedrus yn y Sir.

I ddefnyddio gwybodaeth i ddod yn sefydliad sy’n dysgu, mae angen ystod o gamau gweithredu ar draws y Cyngor, yn aelodau a swyddogion, ac mae'n enghraifft arall o gamau gweithredu gwirioneddol gorfforaethol. Mae rhai camau'n gymharol dechnegol: datblygu ymarferoldeb ein systemau TG (gan gynnwys cynlluniau cyflawni ar gyfer systemau newydd ar raddfa fawr ar gyfer tai a gofal cymdeithasol) neu ddatblygu sgiliau data ar draws timau a meddalwedd a all ddadansoddi a chyflwyno data yn fwy effeithiol. Mae camau gweithredu eraill yn ymwneud yn fwy â diwylliant sefydliadol gan gynnwys gwreiddio’r arfer o Reoli Risg Busnes yn niwylliant y Cyngor.

Yn gysylltiedig â gwella sut rydym yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth gan gwsmeriaid mae camau gweithredu sy’n ymwneud â chyfranogiad a hybu dinasyddiaeth weithredol. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwn a byddwn yn parhau â hyn drwy'r strategaeth cyfranogiad, gwaith gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chamau gweithredu ar amrywiaeth mewn democratiaeth.

Mae ein Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol 2022 – 24, sy'n cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ogystal â'r Cabinet, yn nodi'r gwaith sydd yn yr arfaeth i fynd i'r afael ag argymhellion ynghylch Llywodraethu Corfforaethol yn adroddiadau'r rheoleiddiwr allanol yn ogystal ag yn yr adolygiad allanol a'r Her Cymheiriaid Corfforaethol a gomisiynwyd gennym.  Rydym yn hyderus bod y gwaith hwn ar y trywydd iawn ac mae'n flaenoriaeth fwy byrdymor yn hytrach na thymor canolig.

Amcanion llesiant

Mae'r canlynol yn crynhoi ein cynnydd yn erbyn ein hamcanion llesiant ar gyfer 2021-22.

Addysg: Mae arolygiadau diweddar wedi dangos bod cysondeb ac ansawdd yr addysgu wedi gwella ond mae angen i ni wneud mwy i ddangos y cynnydd hwn. Gallwn ddangos cynnydd da ar greu amgylcheddau dysgu sy'n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, er bod buddsoddiad pellach yn yr arfaeth.

Gofal cymdeithasol:  Ein blaenoriaeth tymor byr yw ymdrin â’r oedi gyda helpu pobl i gyflawni eu deilliannau (e.e. asesiad neu roi gwasanaeth yn ei le), sy’n flaenoriaeth allweddol. Bydd hyn yn golygu adeiladu'r farchnad ar gyfer ffyrdd amgen o ddiwallu'r angen a bydd yn golygu bod angen mwy o adnodd staffio uwchlaw’r cyfanswm presennol. Ein blaenoriaethau tymor hwy o hyd yw atal er mwyn gwella ansawdd bywydau pobl yn ogystal â lleihau'r galw yn y dyfodol.

Tai: Ein blaenoriaethau yw mynd i'r afael â digartrefedd a phrinder dybryd tai fforddiadwy yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Bydd gwella effeithlonrwydd ynni tai, tai cyngor yn ogystal â'r sector preifat ehangach, yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio Sir Benfro. Er ein bod wedi cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy trwy weithio gyda phartneriaid neu drwy brynu unedau eiddo yn uniongyrchol (a bydd ein tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu ers degawdau yn cael eu gosod eleni) nid yw'r cyflenwad o lety fforddiadwy newydd yn aros gyfuwch â'r galw.

Yr Economi.  Rydym wedi gwneud cynnydd da ac fe fyddwn yn parhau i ganolbwyntio ar Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro gyda phwyslais penodol ar Waith i ddatblygu 'Sir Benfro fel Prifddinas Werdd y DU' wrth fwrw ymlaen â phortffolio o brosiectau i adnewyddu canol ein trefi.

Yr amgylchedd a newid hinsawdd. Mae ein gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff yn perfformio'n dda iawn o’i gymharu â Chymru a gweddill y DU – neu, yn wir, weddill y byd.  Yr her yw cynnal y perfformiad yma.  Rydym wedi gwneud ymrwymiad i gyrraedd statws carbon sero net erbyn 2030 ac er ein bod yn gwneud cynnydd mae maint y buddsoddiad y mae ei angen yn anodd i’w oramcangyfrif.

Trawsnewid. Rydym wedi gwneud cynnydd da ar agweddau technolegol a diwylliannol ar y rhaglen hon. Yr her yn y dyfodol yw bwrw ymlaen â'r gwaith ar ein perthynas â chymunedau - gwneud dinasyddion, cymunedau a busnesau’n ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud.

Datblygu cynaliadwy

Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.  Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi pum ffordd o weithio sydd, o’u dilyn, yn cynyddu’r tebygolrwydd o gydymffurfio â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn fawr.

Dim ond drwy wreiddio'r meddylfryd hwn ym mhopeth a wnawn y gellir cyflawni datblygu cynaliadwy.  Defnyddir ein Hasesiad Effaith Integredig i asesu effaith bosibl penderfyniadau unigol a wneir ar lefel y Cabinet. Mae'r canlynol bwrw golwg ar y goblygiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy sy’n deillio o brif neges yr hunanasesiad hwn o bosibl, sef yr angen i wella gwaith cynllunio polisi a chynllunio ariannol tymor canolig integredig.

Hirdymor.  Pwysigrwydd taro cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a'r angen i ddiogelu anghenion hirdymor.

Tra bod enghreifftiau gwych o ran sut y mae'r Cyngor yn buddsoddi mewn prosiectau, sydd â budd hirdymor amlwg fel adeiladau newydd ar gyfer ysgolion a chynlluniau adfywio, annog pobl i ailddefnyddio ac ailgylchu, fel sefydliad rydym yn gwybod bod angen i ni ehangu gorwelion cynllunio gwasanaethau a chynllunio ariannol.  Mae pwyslais yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ymarferol yn rhy fyrdymor ac mae angen ei estyn i (o leiaf) y tymor canolig. Mae gorwelion cynllunio mwy hirdymor yn ei gwneud hi'n haws canolbwyntio ar y pedair ffordd arall o weithio; mae'n cymryd amser i ddulliau ataliol arwain at ostyngiadau yn y galw am wasanaethau, mae dulliau tymor hwy yn aml yn seiliedig ar gonsensws

Atal. Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Mae atal yn cael ei wreiddio yn ein dull o ymdrin â llawer o wasanaethau yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol ac addysg. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys mynd i'r afael â thlodi, grŵp gorchwyl atal yn ogystal â gwasanaethau sy'n gwella iechyd y cyhoedd, er enghraifft trwy annog pobl i fod yn fwy egnïol.  Eto, drwy ganolbwyntio ar gynlluniau tymor canolig, mae'n haws rhoi i brosiectau ataliol yr amser y mae ei angen arnynt i gael effaith.

Integreiddio. Ystyried sut y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar ei amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Mae ein gweithredoedd yn aml wedi'u hintegreiddio (er enghraifft mae gwneud mwy o ddefnydd o brentisiaethau yn mynd i'r afael â phrinder sgiliau yn ogystal â helpu pobl ifanc i aros yn yr ardal ond mae angen ffurfioli hyn drwy’r modd yr ydym yn mynd ati i gynllunio ar gyfer y tymor canolig.  Wrth i bwysau gynyddu ar gyllid cyhoeddus mae'r risg y bydd effeithlonrwydd mewn un gwasanaeth yn cael effaith andwyol ar un arall yn cynyddu.

Cydweithio. Gweithredu ar y cyd gydag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.

Mae llawer o'r gwaith yn digwydd mewn partneriaeth ac mae'r strwythurau o amgylch hyn yn aeddfedu.  Mae'r cynllun llesiant newydd sy'n cael ei lunio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, y ffocws ar ddatblygu economaidd rhanbarthol trwy Gydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru a'r broses o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i gyd yn enghreifftiau o sut mae'r Cyngor yn cyfrannu at gynlluniau tymor canolig sy'n canolbwyntio ar lesiant.

Cynnwys. Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â buddiant mewn cyrraedd y nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.

Bydd y strategaeth cyfranogiad a gwneud dinasyddion, cymunedau a busnesau’n ganolog i’r hyn rydyn ni'n ei wneud yn cryfhau cynnwys fel ffordd o weithio yn y dyfodol. Mae’n anorfod bod hyn (o leiaf) yn waith ag amserlen tymor canolig a gellir dadwneud gwaith trwy brosesau penderfynu brysiog sy'n cyflwyno negeseuon cymysg i randdeiliaid.

 

ID: 9673, adolygwyd 28/02/2023