Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario
Sut mae'ch arian yn cael ei wario
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol:
- Addysg a Gwasanaethau Plant
- Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
- Gwasanaethau'r Amgylchedd
- Cynllunio a Datblygu
- Gwasanaethau Tai
- Gwasanaethau Diwylliannol a Chysylltiedig
- Priffyrdd a Thrafnidiaeth
Addysg a Gwasanaethau Plant
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- gynnal 52 ysgol gynradd, chwech ysgol uwchradd, dwy ysgol ganol, un ysgol arbennig, a Chanolfan Ddysgu Sir Benfro.
- addysgu dros 17,200 o ddisgyblion a chyflogi mwy na 2,025 o weithwyr addysg.
- darparu tîm o weithwyr gwella ysgolion gan gynnwys cynghorwyr herio
- darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer hyd at 200 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth mewn naw ysgol, yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3.
- darparu tîm sy'n gweithio â rhieni, disgyblion ac ysgolion - gan gynnwys seicolegwyr addysg, athrawon arbenigol, Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni a chynorthwywyr dysgu - er mwyn rhoi cymorth unigol i ysgolion a rhieni.
- cyflogi 21 o weithwyr ieuenctid llawn-amser a 82 rhan-amser a gwirfoddolwyr, ac 14 staff tîm cyfiawnder ieuenctid gyda chymorth rhyw 10 wirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gweithio gyda thros 3,000 o bobl ifanc;
- rhoi cymorth i gynnal gwaith ieuenctid a gweithgareddau mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys pedair canolfan, 13 clwb ieuenctid, pob ysgol uwchrad yn gynnwys clwb ar ôl ysgol, y PLC (Canolfan Ddysgu Sir Benfro) a Choleg Sir Benfro.
- darparu ystod o gyfleoedd ymgysylltu, gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol a datblygu sgiliau, a gweithwyr allgymorth arbenigol i dros 650 o bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio
- gweithredu'r Gwasanaeth Cerdd sy'n rhoi gwersi arbenigol bob wythnos i mwy na 2,500 o ddisgyblion mewn dros 80% o ysgolion Sir Benfro, ac yn galluogi oddeutu 500 o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn gwahanol gyfleoedd perfformio.
- darparu oddeutu 43,000 o brydau bob wythnos ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, trwy gyfrwng y Gwasanaeth Prydau Ysgol.
- hwyluso Cynulliad Ieuenctid y Sir a fforymau ieuenctid lleol yn ogystal â chynnal gwefan wybodaeth ar gyfer pobl ifanc a cefnogi gwaith y Bwrdd Diogelu Iau.
- cefnogi ymrwymiad Sir Benfro i hawliau plant trwy'r Swyddfa Plant a Phobl Ifanc a hefyd trwy fabwysiadu'n ffurfiol Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
- rhoi cymorth i Gynllun Gwobrau Dug Caeredin ym mhob ysgol uwchradd ac mewn pedair canolfan gwobrau agored, gyda 199 yn ennill yr Wobr Efydd, 75 yr Wobr Arian a 36 yr Wobr Aur yn 2019.
- gwella lles trigolion Sir Benfro drwy gynnig dros 600 o gyfleoedd ar draws Sir Benfro i gysylltu ag eraill, parhau i fod yn weithgar a dysgu sgiliau newydd.
- cyflwyno rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned Sir Benfro yn Dysgu ledled y sir, gyda thros 4,400 o gofrestriadau ar dros 600 o ddosbarthiadau;
- cydgysylltu cyflwyno Sbardun mewn ysgolion cynradd, gan ddarparu dros 230 o gyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion a theuluoedd;
- cynorthwyo datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg gan roi cyfleoedd dysgu i dros 800 o bobl;
- gwella sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a digidol oedolion trwy gynnig dros 140 o ddosbarthiadau Sgiliau Hanfodol;
- galluogi 450 o oedolion gael cymwysterau a fydd yn helpu eu gobeithion cyflogaeth;
- darparu mentrau Chwaraeon Sir Benfro, gan gynnig bron 49,000 o gyfleoedd chwaraeon allgyrsiol ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd, a hyfforddiant ar gyfer dros 1,600 staff ysgolion cynradd, gwirfoddolwyr ac arweinwyr ifanc.
- gweithio gyda chlybiau chwaraeon cymunedol i gynyddu aelodaeth iau, sydd ar hyn o bryd yn sefyll ar 64% o’r boblogaeth leol.
- darparu gwasanaeth AG peripatetig i draean o ysgolion cynradd Sir Benfro i sicrhau darpariaeth ansawdd uchel o addysg gorfforol.
- cynnal Gofal Cymdeithasol i Blant; ar unrhyw adeg benodol byddwn yn gweithio â mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc mewn angen.
- diogelu a chynorthwyo ysgolion gyda cymorth, cyngor a hyfforddiant ar ddiogelu ar gyfer y plant a bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ymadawyr â gofal a'r rhai hynny sydd o fewn y gwasanaethau ataliol.
- recriwtio a rhoi cymorth i ofalyddion maeth a rhieni sy'n mabwysiadu, a pharu gofalyddion addas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
- darparu gofal seibiant i bobl ifanc sydd ag anableddau canolig i ddifrifol mewn uned seibiau byr arbenigol.
- cynnal gwaith atalal trosedd gyda mwy na 1,500 o bobl ifanc bob blwyddyn.
- cynnal dioddefwyr trosedd; cynorthwywyd 115 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn.
- cyflwyno sesiynau camddefnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol ledled y Sir gan ddefnyddio patrwm lleihau niwed.
- darparu Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni sydd wedi rhoi yn ystod 2019 gwybodaeth a chyngor i dros 400 o rieni, plant a phobl ifanc mewn teuluoedd lle mae plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, trwy linell gymorth, gwefan, cymorthfeydd galw heibio a chyfarfodydd rhwydweithio.
- rhoi cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol trwy glybiau ieuenctid unswydd ar benwythnosau ac ar ôl ysgol.
- cyflenwi darpariaeth arbenigol i hyd at 120 o ddisgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys darparu ar gyfer disgyblion gydag anawsterau gorbryderu ac iechyd meddwl;
- darparu clwb ar ôl ysgol arbenigol i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd.
- gwneud darpariaeth arbenigol ar gyfer hyd at 150 o ddisgyblion gydag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.
- darparu rhyw 3600 o sesiynau cwnsela therapiwtig seiliedig ar ysgolion i dros 760 o blant a phobl ifanc.
- darparu tîm o seicolegwyr addysgol, cynghorwyr, athrawon ymgynghorol, therapyddion a chynorthwywyr dysgu i weithio ar draws clystyrau o ysgolion gyda rhieni, disgyblion a staff.
- fel rhan o strategaeth yr Awdurdod i feithrin gallu ysgolion, cyflenwi dewis eang o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
- darparu cyfarfodydd clwstwr bob tymor fel bod Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gallu datblygu eu gwybodaeth, rhwydweithio a rhannu arferion gorau.
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- galluogi dros 2,500 o bobl i aros yn eu cartrefi eu hunain trwy amrywiaeth o gymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd gan Gyngor Sir Penfro yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:
gwasanaeth ailalluogi sy’n adsefydlu dros 700 o bobl yn drylwyr yn eu cartrefi eu hunain ar ôl salwch a/neu anaf.
gofal cartref – mae rhyw 1,120 o bobl yn cael cymorth i ddilyn trefnau a dull o fyw cyfarwydd yn eu cartrefi eu hunain gan ganiatáu iddynt gadw’u hannibyniaeth ac ansawdd eu bywydau.
taliadau uniongyrchol – mae mwy na 330 o bobl yn cael y modd i ddewis a phrynu eu gwasanaethau drostynt eu hunain.
gwasanaethau / cyfleoedd dydd yn y gymuned – mae mwy na 690 o bobl yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dydd yn ystod y flwyddyn gan fwynhau cwmnïaeth a chyfleoedd i ddysgu neu ailddysgu sgiliau a hobïau, yn ogystal â chael cymorth gyda gwaith arferol.
darparu offer anabledd mewn partneriaeth â’r GIG.
- rhoi cymorth i bobl sy'n agored i niwed er mwyn iddynt ddal i fod yn ddiogel yn eu cymunedau eu hunain, a cheisio sicrhau nad yw pobl yn dibynnu ar ofal hirdymor.
- galluogi bron 900 o bobl i fyw mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio yn ystod y flwyddyn.
- rhoi cymorth, ar y cyd â'r GIG, i oedolion sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
cyd-gyflwyno gwasanaethau ataliol yn y gymuned.
Gwasanaethau'r Amgylchedd
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- gynnal oddeutu saith miliwn o gasgliadau sbwriel a nwyddau i'w hailgylchu o fwy na 61,000 o gartrefi bob blwyddyn. Y llynedd, fe wnaethon ni gasglu mwy na 5,035 tunnell o wastraff bwyd; 2,957 tunnell o wydr, a 8,700 tunnell o ddefnyddiau mewn bagiau oren wrth ymyl y ffordd.
- darparu 89 o fannau ailgylchu a chwe Chanolfan Amwynder Dinesig ac Ailgylchu sydd â chyfleusterau er mwyn ailgylchu mwy na 25 o wahanol ddefnyddiau; o ganlyniad mae dros 10,200 tunnell o ddefnyddiau wedi cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu.
- compostio oddeutu 7,800 tunnell o wastraff gwyrdd y flwyddyn trwy gyfrwng y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd a'r Canolfannau Amwynder Dinesig ac Ailgylchu.
- monitro ansawdd aer, tir a dŵr ac ymdrin â niwsans sŵn, plâu a chŵn.
- rheoleiddio prosesau diwydiannol bach i sicrhau cydymffurfio amgylcheddol
- ymateb i fwy na 1,000 digwyddiad o dipio anghyfreithlon bob blwyddyn.
- cynnal oddeutu 1,545 o arolygiadau diogelwch bwyd a 250 o arolygiadau iechyd a diogelwch bob blwyddyn.
- ddarparu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan sicrhau bod busnesau bwyd yn cael eu sgorio.
- ymdrin â mwy na 650 o gwynion ynghylch safonau masnachu a chynnal mwy na 405 o geisiadau yn ymwneud â lles anifeiliaid.
- trwyddedu 63 sefydliad anifeiliaid.
- cynorthwyo i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag sgiamiau ar y ffôn, ar y stepen drws, trwy'r post neu ar y rhyngrwyd.
- cynnal archwiliadau Safonau Masnachu ar werthwyr ceir i sicrhau masnachu teg a diogel.
- rhoi prawf ar 100% o bympiau petrol a bob tancer tanwydd swmp er mwyn sicrhau eu bod yn fanwl gywir.
- cynnal bron 11,520 o geisiadau am wasanaeth, a rhoi dros 1,170 o drwyddedau.
- cynnal Amlosgfa Parc Gwyn ar bwys Arberth, a chynnal a chadw 11 mynwent ledled y Sir.
- claddu’r ymadawedig gydag urddas pan nad oes unrhyw berthynas agosaf a datgladdu cyrff marw wrth reoli peryglon cysylltiedig.
- casglu cŵn crwydr er mwyn gwarchod y cŵn a phobl rhag peryg niwed a sicrhau ailgartrefu cŵn crwydr a dieisiau’n briodol.
- microsglodynnu miloedd o gŵn yn y Sir er mwyn sicrhau bod modd olrhain eu perchenogion a’u dychwelyd adref yn ddiogel os cânt eu colli.
- datrys problemau gydag eiddo aflan a ferminog ledled y sir fel ag i sicrhau nad oes dim perygl i iechyd y cyhoedd.
- sicrhau bod diffygion mewn carthffosydd a charthbyllau preifat yn cael eu hatgyweirio i atal carthion amrwd mewn mannau cyhoeddus rhag peri amgylchiadau sy’n peryglu iechyd y cyhoedd.
- delio â heigiadau llygod mawr trwy orfodi i atal rhag peryglu iechyd y cyhoedd.
- cyfryngu a gorfodi mewn anghydfodau gwrychoedd uchel.
- gorfodi gofynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau bod pobl yn mwynhau cymunedau diogel a thawel.
Cynllunio a Datblygu
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- rhoi cymorth i faes adfywio canolau trefi a chynorthwyo chwe thîm tref sefydledig er mwyn iddynt nodi'r cyfleoedd i adfywio eu trefi.
- llywio a rheoli datblygiad, yn cynnwys gwarchod treftadaeth adeiledig a naturiol y Sir.
- gweithredu Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro, gan gynnwys sefydliad blaengar Canolfan Arloesedd y Bont.
- darparu seilwaith busnes arall yn gynnwys uned fusnes, fferm sirol, ac eiddo siop/swyddfa.
- gweithredu Maes Awyr Hwlffordd.
- rheoli adeiladau swyddfeydd corfforaethol y Cyngor.
- gweithredu harbwr Dinbych-y-pysgod a harbwr Cwm Gwaun, a'r marchnadoedd yn Ninbych-y-pysgod, Doc Penfro ac Abergwaun.
- sicrhau cymorth grantiau Ewropeaidd ac eraill i gynorthwyo datblygu economaidd a chymdeithasol a chyflawni prosiectau sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Cyngor.
- sicrhau bod y Cyngor a'r Sir mor barod â phosibl ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit.
- cefnogi cymunedau trwy grantiau, benthyciadau a rheoli prosiectau.
- marchnata Sir Benfro fel cyrchfan ymwelwyr gydol y flwyddyn trwy ymgyrchoedd marchnata integredig, www.visitpembrokeshire.com ac mewn partneriaeth â Chroeso Cymru a Visit Britain.
- arwain Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro er mwyn llywio datblygiad y cynhyrchion a'r gwasanaethau twristiaeth ledled y Sir.
- gweithredu cynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro a rheoli Marchnad Ffermwyr Hwlffordd.
- trefnu Wythnos Bysgod Sir Benfro a chynorthwyo gwyliau bwyd eraill.
Gwasanaethau Tai
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- ddarparu gwasanaethau i atal digartrefedd.
- cynorthwyo pobl ag anabledd i addasu eu cartrefi.
- hwyluso datblygiadau tai cymdeithasol newydd ar y cyd â chymdeithasau tai lleol.
- rhoi cymorth tenantiaeth i bobl sy'n agored i niwed, ar y cyd â phartneriaid yn y trydydd sector.
- darparu cyngor ynghylch effeithlonrwydd ynni a diogelwch yn y cartref.
- gorfodi cynllun cofrestru / trwyddedu Rhentu Doeth Cymru mewn eiddo preifat ar rent.
- ymateb i filoedd o gwynion ynghylch niwsans a chyfryngu neu gymryd camau gorfodi i sicrhau bod gan bobl gartrefi a chymunedau iach a diogel
- archwilio eiddo preifat ar rent er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i fyw ynddo a heb fod yn peryglu iechyd neu’n creu perygl tân.
- dod â chartrefi cartrefi gwag yn ôl i’w defnyddio yn y Sir a chodi safon eiddo.
- sicrhau bod tenantiaid yn cael eu trin yn briodol pan fyddant yn rhentu cartrefi drwy’r sector preifat yn y Sir.
Caiff tai cyngor eu hariannu'n gyfan gwbl gan y rhent sy'n cael ei dalu ac nid yw'n cael effaith ar y Dreth Gyngor.
Gwasanaethau Diwylliannol a Chysylltiedig
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- weithredu 11 canolfan hamdden sy'n denu oddeutu 1.3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd ymarfer corfforol ar gyfer bob oedran yn y gymuned. Mae pob un o’n chwe chanolfan mwyaf ar agor dros 95 awr yr wythnos.
- darparu bron 280 o ddosbarthiadau ymarfer a darparu lle ar gyfer 480 o sesiynau wythnosol clybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
- trefnu sesiynau ‘Dewch i Ddysgu Sut i Nofio' yng nghanolfannau hamdden y Sir trwy roi gwersi i oddeutu 3,000 o blant bob wythnos.
- cynnal Addysg wrth ddarparu cyfleusterau a dysgu nofio i 5,400 o ddisgyblion ysgol gynradd bob blwyddyn.
- rheoli traethau arobryn niferus Sir Benfro. Yn 2019, llwyddodd Cyngor Sir Penfro i ennill 11 Baner Las, 13 Gwobr Arfordir Gwyrdd a 14 Gwobr Glan Môr.
- darparu achubwyr bywyd ar 11 o draethau'r Sir yn ystod misoedd yr haf mewn partneriaeth â'r RNLI a chefnogi pump clwb achubwyr bywyd ledled y Sir.
- gweithredu Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a fynychwyd gan 8,000 o bobl ers cyflwyno'r Cynllun yn 2008.
- darparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ar gyfer y sir gyfan drwy rwydwaith o 12 o lyfrgelloedd ac un cerbyd symudol/danfon i’ch cartref, ynghyd â gwasanaeth ar-lein.
- rhedeg Llyfrgell, Oriel a Siop Goffi Glan-yr-afon yn Hwlffordd, sydd hefyd yn arddangos trysorau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
- cynnal Archifdy ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro.
- darparu gwybodaeth am dwristiaeth, ymdrin ag ymholiadau gan ymwelwyr.
- cynnal Maenordy Scolton a'r Parc Gwledig, a chefnogi amgueddfeydd annibynnol ledled y Sir.
- cynnal Theatr y Torch a llawer o gyfleusterau celfyddyd a cherddoriaeth ledled y Sir.
Priffyrdd a Thrafnidiaeth
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- cynnal a chadw bron 2,500 cilomedr o ffyrdd, a chadw'r strydoedd yn ddiogel a glân.
- cynnal a chadw oddeutu 575 cilomedr o droedffyrdd, 670 o bontydd a chwlferi, a 230 o adeileddau sy'n dala priffyrdd yn eu lle.
- graeanu 560km o brif lwybrau a 130km o lwybrau eilaidd ledled y sir pryd bynnag y bydd rhagolwg o rew neu eira.
- ymateb i dywydd garw gan gynnwys symud eira ac ymateb i lifogydd, coed wedi cwympo a gwrthdrawiadau traffig ffordd
- darparu 15,350 o oleuadau strydoedd a TCC mewn pum canol tref.
- dechrau lledaenu mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflym ym meysydd parcio’r Cyngor
- darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ac oddi yno ar gyfer bron 6,000 o ddisgyblion a myfyrwyr bob dydd.
- darparu bron 30 o hebryngwyr croesfannau ysgolion
- trefnu a chymryd rhan yn y Criw Craff amlasiantaethol, achlysur pythefnos bob blwyddyn sy’n rhoi hysbysrwydd diogelwch hanfodol i ryw 1,400 o ddisgyblion blwyddyn chwech.
- noddi bron dri chwarter gwasanaethau bysiau’r Sir, gan ddarparu dros filiwn o deithiau teithwyr y flwyddyn.
- darparu mwy na 2,000 o siwrneiau yr wythnos er mwyn i bobl oedrannus ac anabl fynd i Ganolfannau Dydd a Chanolfannau Gweithgareddau ac oddi yno.
- rhoi cymorth i gynlluniau cludiant cymunedol er mwyn darparu atebion dyfeisgar i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu oddeutu 40,000 o siwrneiau yr wythnos i bobl pan nad ydynt yn gallu defnyddio bysiau arferol
- rheoli'r cynllun cerdyn teithio rhad ar gyfer mwy na 30,000 o bobl sy'n berchen ar gerdyn bws.
- cynnal a chadw 12.3 cilomedr o amddiffynfeydd môr y mae'r Cyngor yn berchen arnynt.