Tir Comin

Cofrestru Tir Comin

Mae Cyngor Sir Penfro’n Awdurdod Cofrestru dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 a Deddf Tiroedd Comin 2006 ac mae’n dal y cofrestri ar gyfer tir comin a meysydd trefi neu bentrefi yn Sir Benfro, sy’n cynnwys tir comin a meysydd trefi neu bentrefi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fel Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin, mae dyletswydd statudol arnom i gynnal cofrestri Tir Comin a Meysydd Trefi neu Bentrefi. Mae’r cofrestri ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd rhwng 9am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener bob wythnos (heblaw gwyliau cyhoeddus). Tra nad oes unrhyw dâl am archwilio’r cofrestri, rhaid talu am unrhyw lungopïau.

Os ydych eisiau archwilio’r cofrestri a gallu siarad â rhywun, byddai’n ddoeth ffonio o flaen llaw i wneud trefniant. Gallwch wneud trefniant i edrych ar y cofrestri trwy gysylltu â’r Swyddog Tir Comin ar 01437 775330 neu commonland@pembrokeshire.gov.uk

Swyddogaethau gweinyddol yn unig sydd gan y Gwasanaeth Cofrestru Tir Comin. Mae modd rhoi gwybodaeth ar weithdrefnau ond, pan fo angen cyngor cyfreithiol / dehongli’r gyfraith, rhaid cael cyngor cyfreithiol annibynnol.

Deddf Tiroedd Comin 2006

Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 yn rhoi cyfrifoldebau newydd ar awdurdodau cofrestru tir comin i ddiweddaru a chynnal cofrestri tir comin a meysydd trefi a phentrefi.

Nod y Ddeddf yw:

  • gwarchod tir comin rhag datblygiad
  • caniatáu rheoli tir comin yn fwy cynaliadwy
  • gwarchod tir comin yn well rhag esgeulustod a chamdriniaeth
  • moderneiddio cofrestru tir comin a meysydd i sicrhau gwarchod pob un yn yr un modd

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i’w chael ar wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gwneud cais i gywiro’r Cofrestri

Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 yn derbyn bod diffygion yn Neddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 ac mae’n darparu peirianwaith i ddisodli a gwella’r drefn gofrestru bresennol. Roedd y Llys Apêl o’r farn, hyd yn oed lle’r oedd tir wedi cael ei gamgofrestru fel tir comin, nad oedd Deddf 1965 yn darparu unrhyw beirianwaith i alluogi dileu tir o’r fath o’r gofrestr unwaith yr oedd y cofrestriad yn derfynol.

Ers 5ed Mai 2017, bydd Awdurdodau Cofrestru’n gallu derbyn ceisiadau dan adran 19 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer cywiro’r cofrestri dan amgylchiadau penodedig; a than Atodlen 2 i Ddeddf 2006, sy’n caniatáu ychwanegu tir sy’n cyrraedd meini prawf perthnasol at y gofrestr os na chafodd ei gofrestru, neu ei ddileu o’r gofrestr os cafodd ei gamgofrestru.

Gan ddibynnu ar y cais a wnânt, efallai y bydd gofyn i geiswyr dalu ffi am wneud y cais. Caiff taliadau am wahanol fathau o geisiadau eu rhestru isod, ond dylai darpar geiswyr gysylltu â’r Awdurdod Cofrestru yn y lle cyntaf i gael rhagor o gyngor ar y dewisiadau sydd ganddynt.

  • Cywiro unrhyw wall arall £1081.00
  • Datganiadau Perchnogion Tir £261.00
  • Dileu cofnod dyblyg o’r Gofrestr £162.50
  • Diweddaru Enw a Chyfeiriad £162.50
  • Ychwanegiad neu Erydiad £162.50

Sut i wneud cais

Mae’r ffurflenni sydd eu hangen ar gyfer gwneud cais i gywiro cofrestr tir comin neu faes tref neu bentref i’w gweld isod.

Cyn llenwi unrhyw un o’r ffurflenni hyn, y cyngor cryf yw eich bod yn darllen y canllawiau i geiswyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Sylwch:Efallai y bydd unrhyw un sy’n ymwneud â chais i gywiro cofrestr tir comin neu faes tref neu bentref eisiau cael eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain. Fel yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin, nid yw Cyngor Sir Penfro’n gallu rhoi hyn.

Tîm Cadwraeth
Ffôn: 01437 764551
E-bost: commonland@pembrokeshire.gov.uk

Gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

ID: 2228, adolygwyd 28/11/2023