Y Cynllun Datblygu Gwledig
Sir Benfro Ymlaen
Datblygwyd Sir Benfro Ymlaen gan Gyngor Sir Penfro i symud y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig yn ei flaen. Ffurfiwyd y Bartneriaeth mewn ymgynghoriad â grwpiau perthnasol a mudiadau lleol, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mabwysiadodd y Bartneriaeth yr enw 'Sir Benfro Ymlaen' neu 'Pembrokeshire Advance'.
Mae'r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn ac, yn ychwanegol at oruchwylio'r Cynllun Datblygu Gwledig, mae hefyd â diddordeb mewn materion gwledig ehangach sy'n effeithio ar Sir Benfro. Rôl y bwrdd yw gwneud penderfyniadau ynghylch y prosiectau. Rhaid i'r prosiectau gael eu hardystio gan y bwrdd hefyd, cyn cael eu hanfon at Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y rownd ymgeisio gyfredol
ID: 2593, adolygwyd 02/02/2023