Cyngor Busnes: Diogelwch Bwyd a Chydymffurfiaeth Safonau

Cyngor am Ddim

Bydd y cyngor / cymorth canlynol yn dal i gael ei ddarparu am ddim:

  • Rhoi gwybodaeth a/neu gyngor sylfaenol ar lafar mewn ymateb i geisiadau achlysurol dros y ffôn.
  • Cyhoeddi taflenni / llyfrynnau canllawiau perthnasol.
  • Anfon llythyrau / e-byst i sectorau busnes perthnasol, tynnu sylw at newidiadau mewn deddfwriaeth a chanllawiau neu rai newydd, ac ategu ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth arbennig.
  • Darparu gwybodaeth drwy adran cynghori
  • Rhoi gwybodaeth a/neu gyngor atodol at archwiliadau ac ymweliadau rheoleiddiol eraill.

Wrth symud oddi wrth wasanaeth cynghori am ddim, bydd pwyslais ychwanegol ar wella'r wybodaeth uchod, lle bo modd, er mwyn cael y mynediad eithaf at wybodaeth allweddol a chefnogi cydymffurfio amserol.

ID: 1569, adolygwyd 12/10/2022